Dechreuwyd Dragonfall fel band o'r enw Fragile Earth blynyddoedd maith yn ôl yn Aberdâr yn Ne Cymru. Fe ymunodd Steve Jones ar fas â Rob a Helen ac fe gawson nhw lwyddiant lleol. O'r dechrau chwaraeon nhw gymysg o ganeuon gwreiddiol a "covers" anarferol.. Roedd slot rheolaidd gyda nhw yn y Aberdare Social Club (nawr The Marquis) ble roedd y lle yn dan ei sang pan oedden nhw'n chwarae. Gadawodd Steve i ymuno â Quest - band covers lleol.
Fe benderfynodd Fragile Earth newid ei delwydd fel Aberdares Premier Folk Band (Aberdare Leader). Fe ymunodd Simon Jones ar fâs a Pete Cowan ar ddrymiau ac fe ddaethon nhw yn llai werinol, cyflymach ac yn jazi. Roedd y ganlyniad yn addawol iawn, ond jest pan oedd pethau yn edrych yn dda gadawodd Simon a Pete i fynd i'r coleg.
Fe ymunodd Gareth Preest ar gitar ac fe gafodd y 'lineup' peth lwyddiant yn y gymraeg o dan yr enw Gobaith - tra bod nhw'n chwarae yn saesneg fel Fragile Earth. Fe arafodd y band i gigiau nawr ac yn y man yn nghymraeg ac yn saesneg, tra bod Helen yn astudio am radd. O pryd i'w gilydd roedd Angharad Davies yn chwarae'r ffidil gyda'r band. Ymunodd Steve Alcock ar fâs nes bod ei gwaith wedi ei orfodi symud i le arall. Ac yn sydyn doedd 'na ddim band.
Fe benderfynodd Rob os doedden nhw ddim yn gigio beth am recordio? Er gwaeth ennill ffans a cael clod am eu perfformiadau byw doedd dim byd ar record. Roedd diddordeb gan gwmni bach ond fe benderfynodd Helen a Rob roedd eisau rheolaeth artistig yn aros gyda nhw felly fe sefydlodd y band label ei hunan a dalon nhw am yr albwm.
Fe gafodd yr enw ei newid i Fragile. Ar ôl cymaint o newidiadau bersonel roedd yr enw yn briodol!
Fe aeth Rob a Helen mewn i'r stwdio Big Noise yng Nghaerdydd gyda John Pulman (Bas) a Greg Haver (Drymiau) fel cerddor sesiwn. O ganlyniad daeth demo 3 trac March Blue Eyes, Coming Home a Forever. Fe gafodd y dâp adolygiadau da yn Making Music a Bandiau Wythnosol Cymreig.
Yn sgîl y demo gawson nhw wahoddiad i berffomio ar y teledu. Roedd hi'n bryd i ailffurfio'r band. Fe ailymunodd Gareth ar gitar a Pete ar fâs. Oherwydd doedd dim digon a amser i ddod o hyd i aelodau parhaol perfformiodd cerddor sesiwn Lee Nicholas (drymiau) a Mike Roberts (synth) ar y teledu..
Ar ôl y gig aethon ni yn ôl i'r stwdio recordio i orffen yr albwm. Fe ymunodd Angharad Davies fel cefnlais a Greg unwaith eto ar ddrymiau.
Fe ddechreuon ni feddwl am ryddhau'r albwm. Daeth hi'n amlwg bod nifer o fandiau yn defnyddio'r enw Fragile, felly roedd angen newid eto!. Yr tro yma roedd angen toriad llwyr a cafodd Dragonfall ei geni. Fe eisteddodd yr enw newydd yn well gyda'r swn celtaidd oedd yn llithro i mewn i'r cerddoriaeth.
Cynhyrchiwyd y gelfwaith ar gyfer y cds, posteri, safle we ac ati. Dewiswyd sengl ac yna dechreuodd y gwaith cyhoeddu.
Cysylltiwyd y wasg â'r gorsafoedd radio. Roedd y wasg yn frwdfrydig ac yn gefnogol yn ei hadolygiadau o'r albwm. Roedd nifer o orsafoedd radio yn frwdfrydig hefyd ac roedd y sengl ar playlist ar ôl playlist. Roedd cylchgron Blue Line yn cyhoeddu'r sengl 'find of the month'.
Fe gymerodd Angharad drosodd ar y synth a chafodd lineup ei offen gan gyrheaddiad Elliot Bennet - chwaraewr drymiau ac offerynnau taro arbennig o dda. Fe trefnodd y band gigs yn ogystal â sesiynau radio ac ymddangosiadau teledu. Er gwaethaf difyg arian ac hysbysebion roedd gwerthiant y sengl ac albwm yn gefnogol ac roedd yr ymateb cyffredinol yn wych.
Ac yna aeth bopeth i'r chwith. Fe gafodd Helen ei ruthro mewn i'r ysbyty am lawdrinaeth frys a oedd angen o leia 6 mis o cyfnod cryfhau. Yn ystod y gyfnod fe wrthodd y byd i beidio troi. Fe aeth Pete i ochr arall y byd (Leeds). Fe benderfynnodd Gareth ganolbwyntio ar ei swydd dyddiol. Roedd Elliot yn gweithio'n fwy gyda bandiau eraill. Roedd y band i lawr i dri ac Elliot yn rhan amser.
Gyda Helen wedi gwella 90% rhyddheuiwyd sengl arall. Roedd yr ymateb yn wych ond doedd y band ddim yn gallu ymateb i wahoddiadau i berfformio ar y teledu, radio a pherfformio'n fyw ar wyliau. Fe wnaethon ni ychydig o berfformiadau acwstig a dechreuon ni chwilio am line-up newyd o ddifri.
Erbyn hyn rydyn ni wedi derbyn diddordeb o gylchgronnau a gorsafoedd radio led led y byd. Yn anffodus dydy'r adnoddau ddim gyda ni i wneud mwy na cyfweliad nawr ac yn y man. Mae ymateb tramor wedi bod yn wych. Rydyn ni'n derbyn e-bost a phethau ar y llyfr gwestion o bobl dydy ni ddim yn gwybod. Mae popeth yn galonodig iawn.
Dosbarthu yw ein broblem fwyaf ni. Rydyn ni'n parhau i ychwanegu siopau fan hyn a fan draw, ond mae'n araf iawn. Rydyn ni wedi gwerthu nifer o'r safle we. Diolch yn fawr iawn iawn. .
Yn dilyn toriad bychan dechreuon ni eto. Rydyn ni wedi ysgrifennu digon o ganeuon ar gyfer yr albwm nesaf ac mae gwrandawiadau yn mynd yn iawn. Rydyn ni'n gwneud gigs acwstig, cylchau cyfansoddwyr a tipyn bach o deledu. Mae'n braf gigio eto.
Roedd gig cyntaf y line-up newydd â'r gig wedi gwerthu mas yn y theatr Coliseum Aberdâr Ionawr 8 2000. Yr aelodau newydd ydy Steve Jones (bâs) a Steve Chandler (drymiau). Mae pethau yn haws achos mae'r adran rhythm yn cael ei nabod fel "Steve"! Mae'r bechgyn yn gerddor profiadol. Roedd Steve Jones yn chwarae gyda Rob a Helen yn "Fragile Earth" ac yn hen ffrind. Mae Steve Chandler wedi chwarae gyda nifer o fandiau ac yn ffrind newydd!.
Mae perianydd parhaol ar gyfer gigiau o'r enw Mark Winstone. Mae Mark yn broffesiynol a phrofiadol iawn.
Ar ddiwedd mis Ebrill 2000 fe benderfynodd Steve Chandler i adael y band i ganolbwyntio ar ei fusnes.
Mis May 2000 - mae'r band wedi recordio traciau ar gyfer yr albwm newydd yn cynnwys y sengl "In The Valley". Mae'r enwog Greg Haver wedi ymuno â ni eto ar gyfer recordio a pherfformiadau byw.
Medi 2000. Rydyn ni wedi recordio sengl uniaith Gymraeg - "Yn Y Cymoedd" gyda fersiwn newydd o "Cochyn Tal". Rydyn ni wedi penderfynu canolbwyntio ar y Gymraeg yn y dyfodol. Gobeithio bydd y sengl allan ym mis hydref.
Roedd Dafydd Du, BBC Radio Cymru, yr un cyntaf i chwarae "Yn Y Cymoedd". Aeth y sengl ymlaen i gael ei chwarae ar Sain Abertawe, Radio Ceredigion, Radio Maldwyn, Champion FM, Marcher FM,Coast FM.
Ymddangosodd y band ar "Heno" ar deledu S4C yn perfformio'r sengl ym mis Tachwedd.
Mae sengl newydd "Dolig Dulyn / Hydref Y Ddraig" wedi cael ei recordio gyda geiriau gan yr enwog Cleif Harpwood o "Edward H. Dafis". Er bod y band yn ffans mawr Edward H roedd gweithio gyda Cleif yn bleser pur. Bydd y sengl allan cyn y Nadolig. Bydd gig yng Nghlwb Y Bont i lawnsio'r sengl.
Ionawr 2001 - mae Frank Connor-Hughes yw'r drymwr newydd y band. Rydyn ni'n chwarae gyda'r Strymdingars ym Mhontypridd - gig gwych!
Haf 2001 - Gig gwych eto ym Mharti Ponty - diolch i Menter Iaith a BBC Radio Cymru. Bant a ni i Ddolgellau ar gyfer Sesiwn Fawr (gwych eto - gawn ni ddod yn ol os gwelwch yn dda?) ac wedyn nol i recordio'r albwm.......
Medi 2001 - Rydyn ni wedi gorffen recordio'r albwm gyda Greg Haver yn stiwdio Loco ger Brynbuga. Pawb wedi blino'n lan.......
Hwre!!! Mae Sain wedi rhoi cyntundeb i ni ar gyfer yr CD newydd.
Tachwedd 2001 - Mae'r cd "Natur Bywyd" yn dod allan. Aeth yr CD mewn i siart cytgord yn rhif 18! Record yr wythnos ar Radio Cymru.... cefnogaeth gan bob orsaf radio Cymraeg. DIOLCH YN FAWR!!!
2002 - Sesiwn Fawr yw'r uchafbwynt heb ots! Hefyd rydyn ni'n ymddangos ar raglen Nadolig Noson Lawen. Gadawodd Steve Jones am resymau teuluol. Paul Williams yn ymuno ac yn dysgu'r set cyfan mewn pythefnos ar gyfer Sesiwn Fawr. Frank yn gadael. Mae'r band heb ddrymwr eto.
2003 - Mae Matt Davies yn ymuno fel drymwr newydd ac ymlaen a ni eto. Y band yn ailgychwyn gyda gig ar gyfer Plant Mewn Angen. Roedd y band yn gigio ond gan fod Angharad yn ei blwyddyn olaf yn y brifysgol nad oedd llawer o amser gyda ni.
2004 - Uchafbwyntiau: Mis Ebrill - gig arbennig o dda yn "Callaghans" yng Nghaerdydd. Gig arall gwych yng Nghlwb y Bont, Pontypridd. Rydyn ni'n perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd. Mae'r band yn cael cynnig chwarae yn Sir Efrog Newydd ond yn methu cael visa mewn pryd. Mae Angharad yn graddio (2.1 - Clefar clogs).
Ymddengisodd Helen ar raglen BBC3 "End of Story" 7/11/04. Ddaeth yn ail mewn cystadleuath ym mhlith miloedd.
Roedd Dragonfall yn 'Band Yr Wythnos' ar Valleys Radio's 'sesiwn yr hwyr' o 29/11/04 ymlaen. Cyfwewyd a'r band a chwaraewyd traciau. 999 and 1116 AM. 18:00 - 21:00 bob nos.
2005 - Gigio dros y lle i gyd. Uchafbwyntiau - Gwyl Cwlwm Celtaid; Gwyl Celtaidd Caerdydd (yn y Ganolfan Milenium); Gwyl Pontardawe; Gwyl Merthyr.
2006 Mae Dragonfall yn rhyddhau ei drydydd albym ar raglen Jonsi BBC Radio Cymru.
|
![]() |
|